Y Brawd Houdini
ALE HAF, CITRIC A BLODAU.
DRAFFT: 3.8% ABV
POTEL: 4% ABV
Cyfansoddodd Meic Stevens, y troubadour o Solfach yn Sir Benfro, gân hafaidd a phoblogaidd o’r enw ‘Y Brawd Houdini’. Mae’r haul yn tywynnu drwy ei benillion – ‘beth am botel o gwrw?’!
Mae Meic wedi cynnal nifer o gigs ac wedi mynychu nifer o wyliau yn Llŷn, ac yn ffefryn bytholwyrdd gyda phob cenhedlaeth. Mae moroedd y gorllewin i’w clywed bob amser yn y pellter yn ei gasgliad hyfryd o ganeuon. Bu’n byw yn Llithfaen am gyfnod, ac mae llawer o’i fand yn hanu o’r ardal hon.Dyma ein teyrnged i Meic y consuriwr – sydd bellach yn 70 oed. ‘Iechyd da, Meic’ – llawer o ddiolch, a rociwch ymlaen.